Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 1 Mawrth
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4251
Dechreuodd yr eitem am 13.30
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith:
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau bod Ford yn bwriadu cael gwared â dros 1,000 o swyddi o'i waith adeiladu peiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Dechreuodd yr eitem am 13.57
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.52
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.45
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar Ramblers Cymru.
Gwnaeth Nick Ramsay ddatganiad ar ymgyrch Skin Care Cymru ‘Peidiwch â bod yn gimwch’.
Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad ar Shiromini Satkunarajah.
Dechreuodd yr eitem am 15.51
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6245 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd.
2. Yn gresynu:
a) at ystadegau diweddar gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71 y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y pen Cymru yn 2015, sef yr isaf ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr;
b) y bydd cleifion yng Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis a thriniaeth nag y byddent am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac
c) at berfformiad diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth 2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.
3. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru;
b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac
c)
potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd
Cymru yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliant a galyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na chyfartaledd y DU;
b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion;
c)
bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn dangos bod y
prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi
ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion
sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu
cyd-ddisgyblion yn cau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
23 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6245 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd.
2. Yn nodi:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na chyfartaledd y DU;
b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion;
c)
bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn dangos bod y
prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi
ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion
sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu
cyd-ddisgyblion yn cau.
3. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru;
b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac
c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
7 |
16 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6244 David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu, er y gall contractau dim oriau fod o fantais i gyflogwyr a gweithwyr o ran y rhyddid a'r hyblygrwydd y gallant ei gynnig, gallant hefyd greu problemau o ran incwm sefydlog, sicrwydd o ran cyflogaeth, statws cyflogaeth a'r cydbwysedd o ran y pŵer rhwng cyflogwr a chyflogai.
2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol;
3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o gamfanteisio.
4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i:
a) creu bywyd o straen;
b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol;
c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol;
d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth; ac
e)
cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau
eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n
dibynnu arnynt.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
42 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o ganlyniad i
gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd
ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith
negyddol ar forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain
at wasanaeth o ansawdd gwaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod arferion cyflogaeth yn newid yn gyflym, gan gynnwys cynnydd mewn contractau dim oriau, hunangyflogaeth a gwaith 'gig' tymor byr.
Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth y DU i gael gwared ar achosion o gamddefnyddio contractau dim oriau, gan gynnwys gwahardd cymalau cyfyngu.
Yn
croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi comisiynu Adolygiad
Taylor ar Arferion Cyflogaeth Modern a fydd yn ystyried goblygiadau
mathau newydd o waith i hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
gresynu bod ymdrechion gan Blaid Cymru i wahardd contractau dim
oriau mewn gwahanol sectorau ar bum achlysur gwahanol yn ystod y
Pedwerydd Cynulliad wedi cael eu trechu gan Lywodraeth Lafur Cymru
a'r Ceidwadwyr Cymreig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
6 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu is-bwynt newydd at bwynt 4:
'arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
6 |
10 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol.
Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
5 |
17 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn sicrhau bod y defnydd o gontractau dim oriau, gan gynnwys pennu hyn drwy unrhyw wasanaethau sy'n cael eu caffael, yn cael ei wahardd yn y Cynulliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
1 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6244 David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o ganlyniad i gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.
2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol;
3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o gamfanteisio.
4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i:
a) creu bywyd o straen;
b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol;
c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol;
d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth;
e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt; ac
f) arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.
5. Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol.
Yn
croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y maes hwn, a
arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y
Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu
gwarantu yn briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig
Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.12
Dechreuodd yr eitem am 18.18
NDM6243
Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd):
Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu
Daeth y cyfarfod i ben am 18.40
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Mawrth 2017